Sut i gyrraedd yma
Cyfeiriadau
Canolfan Ymwelwyr Parc Coedwig Afan
Cynonville
Port Talbot
SA13 3HG
Canolfan Beicio Mynydd Glyncorrwg
Ynyscorrwg Parc
Glyncorrwg
Port Talbot
SA13 3EA
Gyda char
Gadewch yr M4 ar Gyffordd 40 a dilynwch yr arwyddion brown.
Canllaw Newydd Teithio ar Fysus a Threnau
Cymerwch gipolwg ar y Cannlaw newydd Teithio ar Fysus a Threnau i Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, Atyniadau Arfordir a Chefn Gwlad Bae Abertawe.
Gyda’r Trên
Cysylltiadau rheolaidd Great Western Paddington Llundain, Reading, Swindon a Parkway Bryste (cysylltiadau o ogledd dwyrain Lloegr a’r Canolbarth) gyda Phort Talbot.
Arriva Trains West yn syth i Bort Talbot o Gaerdydd, Casnewydd, Henffordd, Yr Amwythig, Crewe a Manceinion, cysylltiadau yng Nghaerdydd gyda de a gorllewin Lloegr. I ymwelwyr tramor, ceir cysylltiadau trên/awyr o Feysydd Awyr Rhyngwladol Gatwick a Heathrow, Bryste a Chaerdydd
Bws 23 o Orsaf Bws Port Talbot (¼ milltir); Tacsis ar gael yng ngorsaf Port Talbot
Gwybodaeth Trenau ar Ymholiadau Trenau Cenedlaethol: 08457 48 49 50; www.nationalrail.co.uk
Gyda Bws
O Ben-y-bont a Maesteg: gwasanaethau First Cymru 70 a 71 (bob 20 munud, dydd Llun i ddydd Sadwrn) i'r Cymmer; cysylltiadau â'r Ganolfan Ymwelwyr a Glyncorrwg trwy wasanaeth 83
O Bort Talbot: gwasanaeth First Cymru 83 yn uniongyrchol i'r Ganolfan Ymwelwyr a'r Cymmer
O Gastell-nedd: First Cymru 59 i Bontrhydyfen; cysylltiadau â'r Ganolfan Ymwelwyr a'r Cymmer.
Prif safleoedd bysus yn Oakwood Pontrhydyfen, Canolfan Ymwelwyr, Cymmer a Glyncorrwg.
Gwybodaeth bws Traveline Cymru 0800 464 0000; www.traveline.info; tecst 84268