Bydd eich adrenalin yn llifo gyda chwe llwybr beicio mynydd Parc Coedwig Afan.
Mae milltiroedd o hen reilffyrdd yn aros amdanoch, ffordd wych o ddarganfod y cwm.
Os ydych am fynd am dro byr neu daith gerdded hir, mae'r cyfan ym Mharc Coedwig Afan.
Y man cychwyn delfrydol ar gyfer cerdded, beicio mynydd, gwersylla, ymweld ag Amgueddfa Glowyr De Cymru neu am damaid i'w fwyta.
Bwyd, gwersylla, siop feiciau, pysgota ac awyrgylch gwych, beth arall y mae angen arnoch?
... Mae Parc Coedwig Afan yn cynnig mwy na byddwch yn ei ddisgwyl ac mae'r cyfan yn aros i chi ei ddarganfod.
DIWEDDARIAD CORONAFEIRWS
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd cyfnod clo cenedlaethol yn ei le o 12pm Dydd Sadwrn 19 Rhagfyr 2020.
Bydd twristiaeth, lletygarwch, hamdden a busnesau manwerthu anhanfodol ar gau. Rhaid i bobl aros gartref ac ni ddylent deithio i mewn i Gymru.
Carem eich cynghori, yn unol â Deddfwriaeth Llywodraeth Cymru, na chaniateir teithio nad yw'n hanfodol yn ystod y cyfnod clo lefel 4 hwn. Dylech wneud eich ymarfer corff yn lleol, a dylai eich ymarfer gychwyn a gorffen gartref.
Mae Cwestiynau Cyffredin Llywodraeth Cymru yn rhoi arweiniad pellach ar y cyfyngiadau uchod.
Cadwch Gymru'n ddiogel, os gwelwch yn dda, a pheidiwch â theithio i Gymru ar hyn o bryd. Bydd Croeso i Gymru yn nes ymlaen.
Ffïoedd parcio newydd ym maes parcio Canolfan Ymwelwyr Parc Coedwig Afan
Ffioedd Maes Parcio Canolfan Ymwelwyr Parc Coedwig Afan
Sylwer bod y ffioedd parcio canlynol bellach yn berthnasol yng Nghanolfan Ymwelwyr Parc Coedwig Afan.
Hyd at 1 awr - £1.00
Hyd at 4 awr - £2.50
Dros 4 awr - £3.50
Tocyn blynyddol - £52.00 - Gellir ei brynu drwy'r cyn eich ymweliad.
Nid yw trwyddedau ar gael ar-lein ar hyn o bryd. Os oes angen trwydded arnoch, cysylltwch â Parcio ar 01639 763939
Sicrhewch eich bod yn prynu tocyn ac yn ei arddangos yn eich cerbyd. Mae'n bosib talu gan ddefnyddio cerdyn digyffwrdd.