Mae maes parcio Rhyslyn ger pentref Pontrhydyfen ac mae ganddo fynediad gwych i rai o'r teithiau cerdded a'r llwybrau beicio. Gallwch gychwyn ar y Daith Gerdded Rhyslyn a Llwybr Penrhys o'r fan yma a gallwch hefyd ymuno â llwybr beicio lefel isel y 'Rheilffordd' o'r maes parcio. Gyda golygfeydd gwych a meinciau picnic, dyma leoliad perffaith i gael seibiant ar eich ymweliad â Pharc Coedwig Afan.
Wrth gerdded am gyfnod byr iawn o'r maes parcio, dewch o hyd i drysor cudd o'r enw Kanji Wood. Mae Kanji Wood, gardd Japaneaidd, yn lle hyfryd i ymlacio ynddo ac mae'n cynrychioli'r berthynas gref rhwng Parc Coedwig Afan Cymru a Japan. Kanji, sef un o’r tri dull ysgrifennu a ddefnyddir yn yr iaith Japaneaidd, yw llythrennau neu bictogramau, a gyflwynwyd i Japan yn y bumed ganrif.
Yn Kanji Wood, gallwch weld llythrennau wedi'u cerfio mewn pren sy'n dynodi Dyn, Bywyd a Choedwig. Mae'r llythrennau hyn yn dangos sut mae 'gwarchod ein coedwigoedd yn hanfodol i ddyfodol dynolryw'.