Beicio Mynydd ym Mharc Coedwig Afan


Mae'r rhan hon o'r wefan ar gyfer y rhai sy'n mwynhau cyffro!   Ym Mharc Coedwig Afan, gallwch ailgysylltu â'r mynydd, ailgysylltu â'ch beic a datgysylltu rhag popeth arall.

Mae'r llwybr trac sengl troellog, llawn gwreiddiau ym Mharc Coedwig Afan sy’n agored yn llwyr i’r elfennau mewn mannau yn freuddwyd i unrhyw un sy'n frwdfrydig am feicio mynydd.

Mae'r llwybrau hyn wedi'u cerfio o lethrau bryniau a oedd unwaith wedi'u hamgylchynu gan byllau glo, ond erbyn hyn mae'r dyffryn wedi troi'n baradwys i feicwyr.  

Mae Parc Coedwig Afan yn gartref i 5 llwybr o safon byd ryngwladol: y 'Penhydd', 'Y Wal', 'Skyline', 'White's Level' ac ‘', sy'n cynnwys dros 100 km o lwybrau un trac. Coedwig Parc Afan oedd yr unig fan llwybrau yn y DU i dderbyn lle yn 'What Mountain Bike Magazine' fel un o'r deg lle orau i reidio "cyn i chi farw". Yn 2008, cafodd hefyd ei bleidleisio fel un o'r deg coedwig orau yn y DU gan y Sunday Telegraph.

Mae llwybrau naill ai'n dechrau o Ganolfan Ymwelwyr Parc Coedwig Afan neu o Ganolfan Beicio Mynydd Glyncorrwg, sydd ill dau'n lleoliadau gwych i gychwyn ar y daith.

Diogelwch Personol

Rhaid beicio o fewn eich gallu


Rhaid sicrhau bod eich beic yn ddiogel i reidio a pharatoi ar gyfer pob argyfwng.


Rhaid bod gennych ryw fath o gerdyn adnabod.

Rhaid i chi ddweud wrth rywun i ble ydych yn bwriadu mynd.


Gall defnyddiau adlewyrchol ar eich dillad achub eich bywyd.

Rhaid i chi wisgo helmed BOB TRO.

Dylech fod yn arbennig o ofalus ar arwynebau ansefydlog neu wlyb.

Rhaid cludo dwr, byrbrydau a dillad ychwanegol.

Mewn argyfwng, ffoniwch y gwasanaethau argyfwng (999). Os yw'r signal ar gyfer ffonau symudol yn wan, ffoniwch 112 ar gyfer y gwasanaethau argyfwng (ar gyfer unrhyw rwydwaith), neu, ffoniwch y Gwasanaeth Ceidwaid yng Nghanolfan Ymwelwyr Parc Coedwig Afan ar 01639 850 564.


Ar ôl cysylltu â'r gwasanaethau argyfwng a/neu Geidwaid y Parc Coedwig, sicrhewch eich bod yn aros yn y man hwnnw.


Wrth feicio ar y llwybrau, cofiwch y ffordd, rhifau’r cyfeirbyst, enwau'r cymalau oherwydd gallai hyn arbed amser gwerthfawr petai’n rhaid chwilio amdanoch chi mewn argyfwng.

Mae Coedwig Parc Afan yn ymestyn dros 64sq km, felly mae'n bwysig cael cymaint o adborth â phosib gan ymwelwyr. Os ydych yn sylwi ar unrhyw broblemau ynghylch y llwybrau beicio, ffoniwch Ganolfan Ymwelwyr Parc Coedwig Afan a nodwch enw’r llwybr, enw'r cymal, y broblem ynghylch y llwybr a’ch manylion cyswllt, neu, e-bostiwch y ganolfan yn afanforestpark@npt.gov.uk

Image: Contact Us
For information on things to do and places to see in Afan Forest Park ring 01639 850564.
Image: Parc Coedwig Afan ar Facebook
Follow the official Afan Forest Park page on Facebook
Image: Digwyddiadau
There is something for everyone with this year's activities. Come along and join in as many events as you can!
S8080 Ltd