Graddio Llwybrau

Beiciwr Mynydd ym Mharc Coedwig Afan

Beiciwr Mynydd ym Mharc Coedwig Afan

Ffordd goedwig a llwybrau tebyg

Addas ar gyfer: Amrywiaeth eang o feicwyr. Y rhan fwyaf o feiciau a chroesiadau. Mae'r gallu i ddarllen mapiau'n ddefnyddiol. Efallai y bydd gan lwybrau gyfeirbwyntiau ond nid o anghenraid.

Math y llwybr a’r arwyneb: Gweddol gwastad a llydan. Efallai y bydd arwyneb y llwybr yn rhydd, yn anwastad neu'n fwdlyd ar adegau. Efallai bod cerbydau a defnyddwyr eraill y ffyrdd yn defnyddio'r ffyrdd hyn, gan gynnwys marchogwyr a phobl yn mynd â’u cwn am dro

Nodweddion graddiannau a llwybrau technegol (TTF): Gall graddiannau amrywio a gallant gynnwys cymalau byr a serth. Mae’r ceudwll achlysurol yn bosib

Lefel ffitrwydd a argymhellir: Gall safon dda o ffitrwydd helpu.

Gwyrdd (Hawdd)

Addas ar gyfer: Beicwyr sy'n ddechreuwyr. Angen sgiliau sylfaenol. Y rhan fwyaf o feiciau a chroesiadau. Gall trelars fynd ar rai llwybrau gwyrdd.

Math y llwybr a’r arwyneb: Gweddol gwastad a llydan. Efallai bydd arwyneb y llwybr yn rhydd, yn anwastad neu'n fwdlyd ar adegau. Gallai gynnwys cymalau trac sengl hwylus byr.

Nodweddion graddiannau a llwybrau technegol (TTF): Mae'r rhan fwyaf o'r esgyniadau a'r disgyniadau'n fas. Dim nodweddion heriol.

Lefel ffitrwydd a argymhellir: Addas ar gyfer y rhan fwyaf o bobl ag iechyd da.

Glas (Cymedrol)

Addas ar gyfer: Beicwyr/beicwyr mynydd canolradd sydd â sgiliau beicio oddi ar y ffordd sylfaenol. Beiciau mynydd a chroesiadau.

Math y llwybr a’r arwyneb: Fel 'Gwyrdd' yn ogystal â thrac sengl wedi’i adeiladu at y diben. Gall fod rhwystrau bach megis gwreiddiau a chreigiau ar arwyneb y llwybr.

Nodweddion graddiannau a llwybrau technegol (TTF): Mae'r rhan fwyaf o raddiannau'n gymedrol ond gallant gynnwys cymalau byr, serth. Mae hyn yn cynnwys graddiannau a llwybrau technegol bach.

Lefel ffitrwydd a argymhellir: Gall safon dda o ffitrwydd helpu.

Coch (Anodd)

Addas ar gyfer: Beicwyr mynydd hyfedr sydd â sgiliau beicio oddi ar y ffordd da. Addas ar gyfer beiciau mynydd oddi ar y ffordd o ansawdd da.

Math y llwybr a’r arwyneb: Mwy serth ac anodd, llwybrau trac sengl gan mwyaf gyda chymalau technegol. Rhaid disgwyl mathau amrywiol o arwynebau.

Nodweddion graddiannau a llwybrau technegol (TTF): Bydd yn cynnwys amrywiaeth eang o esgyniadau a disgyniadau heriol eu natur yn bresennol. Rhaid disgwyl llwybrau estyll, bonciau, creigiau mawr, grisiau canolig, cwympiadau, crymderau, mannau croesi dwr.

Lefel ffitrwydd a argymhellir: Lefel uwch o ffitrwydd a stamina.

Du (Anodd iawn)

Addas ar gyfer: Defnyddwyr beiciau mynydd arbenigol â phrofiad da o lwybrau sy’n gorfforol heriol. Beiciau mynydd oddi ar y ffordd o safon.

Math y llwybr a’r arwyneb: Fel 'Coch' ond gan ddisgwyl mwy o her ac anhawster parhaus. Gallai gynnwys unrhyw lwybr y gellir ei ddefnyddio a chymalau bryniog agored.

Nodweddion graddiannau a llwybrau technegol (TTF): Rhaid disgwyl graddiannau a llwybrau technegol mawr na ellir eu hosgoi. Bydd cymalau'n heriol ac yn amrywiol. Efallai y bydd cymalau yn null beicio i lawr llethrau hefyd.

Lefel ffitrwydd a argymhellir: Addas ar gyfer pobl actif iawn sydd wedi arfer ag ymdrech faith.

Image: Contact Us
For information on things to do and places to see in Afan Forest Park ring 01639 850564.
Image: Parc Coedwig Afan ar Facebook
Follow the official Afan Forest Park page on Facebook
Image: Digwyddiadau
There is something for everyone with this year's activities. Come along and join in as many events as you can!
S8080 Ltd