Gwersylla


Mae Maes Gwersylla Canolfan Ymwelwyr Parc Coedwig Afan y tu ôl i'r ganolfan ymwelwyr. Mae'n hanfodol eich bod yn ffonio'r Ganolfan Ymwelwyr ar 01639 850 564 cyn i chi ymweld er mwyn cadw lle. Oherwydd ei fod mor boblogaidd, mae'n hanfodol cadw lle hyd at 4 wythnos ymlaen llaw yn ystod tymor yr ysgol a gwyliau banc.

Prisiau gwersylla - £3.00 y person y noson

Cyfleusterau gwersylla

  • Systemau ailgylchu yn eu lle - rhowch unrhyw nwyddau i'w hailgylchu yn y biniau cywir ar y maes gwersylla. Darperir bagiau du ychwanegol yn y ganolfan ymwelwyr.
  • Caniateir tanau yn y tyllau tân ar y maes - darperir coed tân yn y bynceri.
  • Mae'r toiledau ar y maes gwersylla ynghyd â standiau barbeciw a diffoddwyr tân.
  • Cawodydd - mae tocynnau ar gael o'r ganolfan ymwelwyr am £1.20 am bob cyfnod o 5 munud. Mae allweddi'r ystafell gawod (ar gyfer y tu allan i’r oriau agor) ar gael o'r ganolfan ymwelwyr am flaendal o £5.00.

Os ydych yn cyrraedd y ganolfan y tu allan i’r oriau agor, dewch o hyd i lecyn addas a thalwch yn y ganolfan y bore wedyn.

Yn ystod y gaeaf, bydd maes gwersylla Canolfan Ymwelwyr Parc Coedwig Afan ar gau. Fodd bynnag, mae cyfleusterau gwersylla ar gael o hyd yng Nghanolfan Beicio Mynydd Glyncorrwg.

Ysgrif lawrlwytho: Canllawiau gwersylla Size: [47 KB] File Type: [.pdf]
Image: Contact Us
For information on things to do and places to see in Afan Forest Park ring 01639 850564.
Image: Parc Coedwig Afan ar Facebook
Follow the official Afan Forest Park page on Facebook
Image: Digwyddiadau
There is something for everyone with this year's activities. Come along and join in as many events as you can!
S8080 Ltd