Walking in Afan Forest Park
Cerdded ym Mharc Coedwig Afan
Cerdded yw ffurf naturiol bywyd o ymlacio. Gall mynd am dro ddatrys problem, gall heicio ysbrydoli syniad a bydd cerdded yn ymarfer eich calon. Mae gan Barc Coedwig Afan 13 cylchdaith gerdded â chyfeirbwyntiau ac mae felly'n lleoliad cerdded pwysig erbyn hyn. Mae ein teithiau'n amrywiol, yn amrywio o fynd am dro hamddenol am filltir i heicio am ddeng milltir. (Dewch â chinio pecyn). Y man cychwyn ar gyfer y teithiau cerdded hyn yw Canolfan Ymwelwyr Parc Coedwig Afan, Maes Parcio Rhyslyn a Chanolfan Ymwelwyr Pyllau Glyncorrwg. Mae cerdded trwy ein cwm yn cynnig cyfle i ailosod eich meddyliau, bod yn un â natur a rhoi gwên ar eich wyneb.
Mae dau becyn cerdded ar gael er mwyn sicrhau nad ydych yn mynd ar goll ar y teithiau. Mae 'Teithiau Cerdded ym Mharc Coedwig Afan' a 'Theithiau Cerdded yng Nghwm Corrwg' yn cynnwys gwybodaeth, cyfarwyddiadau a mapiau ar gyfer pob un o'r 13 taith. Mae ein pecynnau teithiau cerdded yn hawdd i'w defnyddio ac yn wrth-ddwr. Felly nid oes unrhyw esgus i beidio â mynd allan a chymryd rhan. Os yw'n bwrw glaw, gwisgwch y dillad addas. Nid ydym yn credu mewn tywydd gwael, dim ond dillad gwael.
Mae pecynnau teithiau cerdded ar gael i'w prynu o Ganolfan Ymwelwyr Parc Coedwig Afan a Chanolfan Ymwelwyr Pyllau Glyncorrwg. Dyma grynodeb o'r teithiau cerdded y mae gan Barc Coedwig Afan i'w cynnig. Cliciwch ar deitl pob taith gerdded i lawrlwytho mapiau'r llwybrau er mwyn cychwyn ar eich profiad o Afan.