Canolfan Ymwelwyr Parc Coedwig Afan

Canolfan Ymwelwyr Parc Coedwig Afan

Canolfan Ymwelwyr Parc Coedwig Afan

Canolfan Ymwelwyr Parc Coedwig Afan yw'r prif fan cyswllt i gael gwybodaeth am bopeth sydd i'w weld ac i'w wneud ym Mharc Coedwig Afan. Dyma'r lle delfrydol i ddechrau eich diwrnod.

 

Mae gan y ganolfan amrywiaeth o gyfleusterau gan gynnwys maes gwersylla (toiledau a chawodydd), caffi, siop anrhegion, cyfleuster golchi beiciau, cyfleuster llogi beiciau, dau Beamer Tramper (Shop Mobility), Amgueddfa Glowyr De Cymru a chyfleusterau ystafelloedd hyfforddi/cynadledda.  

Mae'r ganolfan hefyd yn cynnwys gwasanaeth gwybodaeth, gorsaf cymorth cyntaf a man cyfarfod ar gyfer Ceidwaid Parc Coedwig Afan.   Gall y staff cyfeillgar ddarparu gwybodaeth ac arweinlyfrau am wahanol lwybrau a lefelau anhawster.

Y Ganolfan Ymwelwyr yw'r man cychwyn ar gyfer y llwybrau beicio mynydd 'Penhydd' ac 'Y Wâl', 9 cylchdaith, llwybr pos i'r teulu, cwrs cyfeiriadu 26 phwynt a mynediad i lwybrau ceffylau.   Gallwch hefyd gael mynediad i Lwybr Coed Morgannwg o'r fan yma hefyd.  

Mae Canolfan Ymwelwyr Parc Coedwig Afan a'r ardal o'i chwmpas yn cynnal ymweliadau rheolaidd gan ysgolion lle mae Comisiwn Coedwigaeth Cymru'n darparu gwasanaeth ymweliadau addysgol.

Am fwy o wybodaeth, ffoniwch y ganolfan ymwelwyr ar 01639 850564 neu e-bostiwch afanforestpark@npt.gov.uk

Canolfan Ymwelwyr Parc Coedwig Afan
Cynonville,
Port Talbot,
Castell Nedd Port Talbot
SA13 3HG.

test
Image: Contact Us
For information on things to do and places to see in Afan Forest Park ring 01639 850564.
Image: Parc Coedwig Afan ar Facebook
Follow the official Afan Forest Park page on Facebook
Image: Digwyddiadau
There is something for everyone with this year's activities. Come along and join in as many events as you can!
S8080 Ltd